Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Gorffennaf 2018
Amser:
09.16 -
10.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4759
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Stuart Evans, Llywodraeth Cymru Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Gomisiwn y Cynulliad, cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am fanylion am y canlynol:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Amgylchedd i ofyn iddi am y canlynol:
o a fyddai'n ystyried rhoi cyngor i awdurdodau lleol ar wahardd defnyddio gwellt plastig gyda llaeth yn yr ysgol;
o darparu rhagor o wybodaeth am ymgynghoriad y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gyda chyflenwyr y cyfeiriwyd atynt yn ei llythyr;
o rhoi gwybod i'r Pwyllgor a yw unrhyw un o'r prosiectau peilot yn y cynghorau yn fesurau archwilio penodol i leihau neu gael gwared ar y defnydd o wellt plastig mewn ysgolion; ac
· ysgrifennu at CLlLC i ofyn am eu barn ar y ddeiseb ac i ofyn pa arweiniad a gymerwyd wrth weithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion i helpu i leihau neu gael gwared ar y defnydd o wellt plastig.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
o rhagor o wybodaeth am statws presennol ymrwymiadau blaenorol i archwilio i'r posibl o dynnu statws cefnffordd yr A487 yn Aberystwyth, ac a yw'r gwaith hwn yn dal i fwrw ymlaen;
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan yr Urdd Syrcas ynghyd ag ymateb gan y deisebydd a chytunodd i ystyried camau ymhellach yn dilyn y sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn ddiweddarach yn y cyfarfod.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gyngor Caerdydd a Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:
Cafodd y ddeiseb hon ei thrafod ochr yn ochr â P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr.
Cafodd y ddeiseb hon ei thrafod ochr yn ochr â P-05-809 Is-ddeddfau Pysgota Arfaethedig Newydd a Methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am eu barn ar y sylwadau mwyaf diweddar gan y deisebydd.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ac, o ystyried nad oedd llawer o gamau y gallent eu cymryd gyda'r ddeiseb ar hyn o bryd, cytunwyd i hysbysu'r deisebydd o ganlyniad yr adolygiad o Ran L o reoliadau'r adeiladau y disgwylir iddynt gychwyn ar ddechrau 2019 ac ystyried y ddeiseb eto bryd hynny.
Bu'r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth gan y deisebwyr ac, oherwydd yr ystyriaeth fanwl a roddwyd i'r materion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a'r disgwyliad i gyflwyno rheoliadau a fydd yn lleihau'r lefel comisiwn gwerthu uchaf i 5 y cant, cytunwyd i gau'r ddeiseb ar y pwynt hwn.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â gohebiaeth bellach gan y deisebydd a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd am fanylion llawn sgoriau asesu cyfnod 1 sydd wedi'u cynnwys yn y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at Aelodau’r Cynulliad ym mis Gorffennaf 2017.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at fyrddau iechyd lleol i ofyn:
· am fanylion am y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gydag anhwylder personoliaeth ffiniol yn eu hardaloedd;
· a yw gwasanaethau arbenigol ar gael fel yr awgrymwyd gan ganllawiau NICE.
Gohiriwyd eitemau 4 a 5 tan ar ôl y sesiwn dystiolaeth a drefnwyd o dan eitem 6 pan dderbyniwyd y cynnig.
Gohiriwyd eitem 5 tan ar ôl y sesiwn dystiolaeth a drefnwyd yn eitem 6.
Adolygodd y Pwyllgor y prosesau ar gyfer deisebau gyda thros 5000 o lofnodion a chytunodd i beidio â gwneud unrhyw newidiadau i nifer y llofnodion sydd eu hangen cyn i'r ddeiseb gael ei ystyried ar gyfer dadl mewn Cyfarfod Llawn o'r Cynulliad.
Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Llywydd gan nodi nifer o gynigion ar gyfer newid y dulliau ar gyfer casglu llofnodion.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Dr Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeyddol Cymru a Stuart Evans, Pennaeth Polisi Pysgodfeydd.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a chytunodd i ysgrifennu ati i ofyn am y canlynol:
gyda'r bwriad o gau'r ddeiseb ar ôl cael ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a chytunodd i ysgrifennu ati i ofyn am sicrwydd y bydd pob lladd-dy yng Nghymru yn cael eu hannog i wneud cais am arian grant i osod teledu cylch cyfyng ac y bydd y rhai sy'n dewis peidio gwneud cais yn cael eu monitro'n agos, gyda'r bwriad o gau'r ddeiseb ar ôl cael ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn sgil ymrwymiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig mewn perthynas â gwella arwyddion yn nhraeth Llanfairfechan, cynnal ymarfer asesu stoc llawn ac y bydd y pysgodfa yn parhau i fod ar gau tan o leiaf diwedd 2018, cytunodd y Pwyllgor i gaw lygad barcud ac i ystyried y ddeiseb eto tuag at ddiwedd y flwyddyn.
Cytunodd y Pwyllgor i aros am gyhoeddiad y Prif Weinidog am y datganiad deddfwriaethol, a ddisgwylir cyn diwedd tymor yr haf, cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.